Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn galw am ail refferendwm Brexit wedi iddo ddisgrifio bargen Boris Johnson fel un sy’n “waeth nag un Theresa May”.
Daeth cadarnhad y bore yma (dydd Iau, Hydref 17) bod Boris Johnson wedi llwyddo i daro bargen newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â Brexit – y mae disgwyl iddo ddigwydd ar Hydref 31.
Yn ôl y Prif Weinidog, mae’n “fargen newydd sy’n cymryd grym yn ôl,” tra bo Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Junker, yn ei disgrifio’n “fargen deg a chytbwys” ar gyfer gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd arweinwyr Ewrop yn ei hystyried mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel heddiw, ac mae disgwyl iddi gael ei chyflwyno gerbron Aelodau Seneddol yn San Steffan ymhen deuddydd.
Beirniadu’r fargen
“O’r hyn rydyn ni’n ei wybod, mae’n ymddangos bod Boris Johnson wedi ffurfio bargen sydd hyd yn oed yn waeth nag un Theresa May, a gafodd ei gwrthod yn llwyr,” meddai Jeremy Corbyn.
“Mae gan y cynigion hyn y risg o gychwyn ras i’r gwaelod o safbwynt hawliau a diogelwch, gan beryglu diogelwch bwyd, torri safonau amgylcheddol a hawliau gweithiwyr.
“Bydd hefyd yn gwneud ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn agored i gorfforaethau preifat o’r Unol Daleithiau.
“Fydd y fargen hon ddim yn uno’r wlad ac fe ddylai gael ei gwrthod. Y ffordd orau i ddatrys Brexit yw rhoi cyfle i’r bobol gael dweud eu dweud mewn pleidlais gyhoeddus.