Mae staff y BBC yn dweud nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at New Broadcasting House yn Llundain ar ôl i grŵp mawr o brotestwyr y grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) ymgynull tu allan i’r brif fynedfa.

Roedd y gohebydd ariannol Paul Lewis wedi trydar bod staff “wedi’u cloi allan o’r BBC gan [y grŵp] Gwrthryfel Difodiant.”

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd…