Mae Prif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar wedi rhybuddio Boris Johnson fod cael cytundeb Brexit erbyn yr wythnos nesaf yn “anodd iawn”.
Roedd gobeithion Boris Johnson o sicrhau cyrundeb gyda Brwsel yn edrych yn gynyddol annhebygol ddydd Mawrth (Hydref 8) wedi honiadau gan Rhif 10 fod y backstop yn ei gwneud hi’n “amhosib” i Brydain adael gyda chytundeb.
Bydd Boris Johnson yn cynnal trafodaethau gyda Leo Varadkar yn hwyrach yr wythnos hon lle bydd yn gobeithio cael consesiynau ganddo.
Ond gyda Hydref 31 yn agosau, mae Leo Varadkar yn rhybuddio am anhawsterau sicrhau cytundeb erbyn wythnos nesaf.
“Mae yno amcanion sylfaenol sydd heb newid yn y tair mlynedd diwethaf ac rydym angen iddynt gael eu gwarantu,” meddai.
“Dwi’n meddwl ei bod hi am fod yn anodd iawn i sicrhau cytundeb erbyn wythnos nesaf.”