Mae dynes fusnes o’r Unol Daleithiau wedi gwrthod dweud a oedd hi wedi cael perthynas rywiol gyda Boris Johnson.
Mae Jennifer Arcuri wedi bod ynghanol ffrae ynglŷn â’i chysylltiadau gyda’r Prif Weinidog pan oedd yn Faer Llundain ond mae hi’n mynnu nad oedd hi wedi cael ei thrin yn ffafriol.
Roedd yr entrepreneur technoleg yn siarad ar raglen ITV Good Morning Britain ar ôl i gyfres o straeon gael eu cyhoeddi yn son am ei chysylltiad â Boris Johnson.
Dywedodd bod Boris Johnson wedi bod i’w fflat “pump, deg, llond llaw o weithiau” gan ei ddisgrifio fel “ffrind da iawn.” Ond ychwanegodd: “Nid busnes unrhyw un arall oedd ein bywyd preifat.”
Yn ôl adroddiadau roedd y cyn-fodel wedi derbyn £126,000 o arian cyhoeddus a mynediad arbennig at dri ymgyrch fasnach dramor oedd wedi cael eu trefnu gan Boris Johnson pan oedd yn faer.
Fis diwethaf cafodd y Prif Weinidog ei gyfeirio at gorff cwynion yr heddlu i asesu a ddylai wynebu ymchwiliad troseddol ynglŷn â’i gysylltiadau a Jennifer Arcuri.
Mae Boris Johnson wedi mynnu bod popeth a wnaeth pan oedd yn Faer “yn dilyn y canllawiau a rheolau cywir yn llwyr.”