Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn galw ar benaethiaid yr Undeb Ewropeaidd i “achub ar y cyfle” a ddaw yn sgil ei gynllun Brexit newydd.
Daw’r alwad wrth iddo ategu ei ddymuniad i osgoi gohirio’r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’n dweud yn y Sun on Sunday y bydd Prydain yn gadael ar Hydref 31 yn ôl y disgwyl, ond mae’n dweud nad oes sicrwydd y bydd yr Undeb Ewropeaidd “yn ffarwelio’n llawen” drwy daro bargen.
Mae’n dweud bod ei gynnig diweddaraf yn “gyfaddawd ymarferol sy’n ildio tir lle bo angen” ac yn golygu bod Prydain “yn neidio ar yr ynys yng nghanol yr afon”.
“Pe baen ni’n gadael â chytundeb, mae angen bellach i’r Undeb Ewropeaidd neidio dros oddi ar ei hochr hithau ac ymuno â ni yno, gan ddangos parodrwydd i daro bargen y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chefnogi.”
Wfftio’r cynnig
Serch hynny, mae Michel Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, yn wfftio’r posibilrwydd o lwyddo gyda’r cynnig.
Mae adroddiadau ei fod e wedi dweud wrth gynulleidfa mewn digwyddiad yn Paris nad oes modd symud ymlaen gyda’r cynnig sydd yn ei le ar hyn o bryd.
Ac mae’r Observer yn cyfeirio at sylwadau’r Undeb Ewropeaidd wrth iddyn nhw ddweud na fydden nhw fyth yn dewis ymadawiad heb gytundeb, ac mae dewis Prydain fyddai hynny.