Mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei bod “yn difaru” y ffordd y cafodd llwythau’r Maori eu trin ganddi, ddwy ganrif a hanner yn ôl.

Fe fu Laura Clarke, Uwch Gomisiynydd Pyrdain yn Seland Newydd, yn cyfarfod â rhai o arweinwyr y Maori yn nhref Gisborne i nodi 250 o flynyddoedd ers i’r Capten Cook gyrraedd y wlad yn ei gwch Endeavour yn 1769.

Fe wnaeth ei longwyr saethu a lladd un arweinydd, Te Maro, yn sgil pryderon y byddai’r Maori yn ymosod arnyn nhw, ac fe aethon nhw yn eu blaenau i ladd wyth yn rhagor.

Er nad oedd hi wedi ymddiheuro’n llawn, fe wnaeth Laura Clarke gydnabod y loes a gafodd ei achosi, gan fynegi ei chydymdeimlad â disgynyddion y rhai a gafodd eu lladd.

Mewn araith, cyfeiriodd hi at “gyfarfodydd rhwng y Maori ac Ewropeaid nad oedden nhw’n gwybod dim am ieithoedd, diwylliannau nac arferion ei gilydd”.

Dywedodd fod y Capten Cook a Joseph Banks, ill dau, wedi ysgrifennu mewn dyddiaduron eu bod nhw’n difaru lladd y Maori.

‘Nid dyma ddiwedd y stori’

Yn y cyfamser, mae Meng Foon, comisiynydd cydberthynas hil Seland Newydd, yn dweud bod teulu brenhinol Prydain wedi anwybyddu gwahoddiad i fynychu’r digwyddiad.

Mae’n dweud ei fod yn awyddus i ddisgynyddion y Frenhines Fictoria gyfarfod â disgynyddion y Maori a gafodd eu lladd, ac i gynnig ymddiheuriad iddyn nhw.

“Nid dyma ddiwedd y stori,” meddai.

“Rwy’n credu y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn mynnu ymddiheuriad.”