Mae aelod o gabinet llywodreth San Steffan yn dweud fod ymgynghorydd arbennig Boris Johnson, Dominic Cummings, yn bihafio “fel plentyn bach” mewn cyfarfodydd.
Dywed y gweinidog sydd heb gael ei enwi fod yno rwystredigaeth tuag at Dominic Cummings am ei fod eisiau “torri popeth yn ddarnau a dechrau eto yn gyson”.
“Mewn cyfarfodydd mae o fel cael plentyn bach yn y gornel,” meddai. “Mae o eisiau torri pethau rydym ni yn eu cymryd yn ganiataol yn ddarnau a dechrau eto.”
Mae Dominic Cummings wedi dod yn ffigwr dadleuon ers i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog. Mae nifer yn honni mai ef sydd y tu ôl i agweddau llym Boris Johnson ar nifer o faterion.
Er hyn, mae Dominic Cummings wedi dweud yn gyhoeddus nad yw’n bwriadu parhau yn ei swydd ar ôl Hydref 31, boed Brexit wedi digwydd neu beidio.