Mae canolfan deuluol a chylch meithrin yn ardal Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn cydweithio er mwyn creu murlun arbennig ar gyfer cartref henoed lleol.
Cafodd y murlun lliwgar, sydd bellach yn hongian ar wal Cartref Preswyl a Chanolfan Dydd Hafan Deg, ei greu ar y cyd gan Ganolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan a Chylch Meithrin Carreg Hirfaen yng Nghwmann.
Mae’r Ganolfan Deuluol yn ymweld â thrigolion Hafan Deg yn rheolaidd er mwyn cadw’r cysylltiad rhwng pobol ifanc a hŷn y gymuned.
“Diolch i’r staff a’r teuluoedd yng Nghanolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan am helpu i gynhyrchu murlun mor hyfryd yma yn Hafan Deg a Chanolfan Dydd Llanbedr Pont Steffan,” meddai Rachael Jones, rheolwr Hafan Deg.
“Mae ein preswylwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff bob amser yn edrych ymlaen at ymweliadau gan deuluoedd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan – maen nhw’n dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd iddyn nhw…”
Yn ôl Elin Vaughan-Miles, cydlynydd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan, bu’r gwaith o greu’r murlun yn “brofiad gwych” i’r teuluoedd.
“Roedd y plant wrth eu boddau’n bwrw ati ac rydyn ni i gyd yn hapus gyda’r murlun,” meddai.