Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud nad yw e eisiau gweld Nicola Sturgeon “ar gyfyl” cynhadledd newid hinsawdd byd eang a fydd yn cael ei chynnal yn Glasgow y flwyddyn nesaf.

Bydd arweinwyr byd yn cyfarfod yn Glasgow ym mis Rhagfyr 2020 i drafod sut i fynd i’r afael a chynhesu byd eang.

Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion ddydd Sul (Medi 29), dywedodd Boris Johnson na ddylai Prif Weinidog yr Alban gael ei chynnwys yng nghyfarfod UN COP26.

Dywedodd: “Dw i ddim eisiau gweld Nicola Sturgeon ar gyfyl y lle oherwydd nid yr SNP oedd wedi sicrhau’r gynhadledd yn Glasgow, Llywodraeth y Deyrnas Unedig wnaeth.”

Mae Boris Johnson hefyd wedi mynnu bod baner yr undeb yn cael ei gynnwys ym mhob polisi a buddsoddiad mae Llywodraeth Prydain wedi’i wneud yn yr Alban.

Wrth drydar ei hymateb, dywedodd Nicola Sturgeon: “Drwy gefnogi Brexit heb gytundeb trychinebus, mae Toriaid yr Alban yn rhoi gofynion Boris Johnson uwchlaw dymuniadau pobol yr Alban… a oedd wedi pleidleisio yn erbyn unrhyw fath o Brexit.”