Mae Boris Johnson wedi addo bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau ar gyfer Brexit er fod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu fod gwahardd y Senedd yn anghyfreithlon.

Dywed Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad y Goruchaf Lys fod y gwaharddiad yn “ddi-rym a heb effaith” – er ei fod yn anghytuno gyda’r canlyniad.

Mae Llefarydd y Tŷ wedi cyhoeddi y bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i’r Senedd ddydd Mercher (Medi 25).

Mae dyfarniad y Goruchaf Lys wedi arwain at alwadau gan Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebu Boris Johnson iddo ymddiswyddo.

“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw ein bod ni yn sicrhau fod Brexit yn digwydd ar Hydref 31,” meddai Boris Johnson.

“Dw i’n credu y byddai’n anffodus iawn pe bai’r Senedd yn ceisio gwneud yr hyn mae’r bobol eisiau yn anoddach, ond mi ydan ni am barhau i wneud hynny.”