Mae Boris Johnson wedi gwrthod ymddiswyddo yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw (dydd Mawrth, Medi 24), ac yn addo bwrw ymlaen â’i gynlluniau Brexit.

Fe ddyfarnodd panel o 11 ustus yn Llundain fod penderfyniad y Prif Weinidog o ohirio’r Senedd am bum wythnos ar drothwy Brexit yn “anghyfreithlon”.

Ond er ei fod yn gwrthwynebu’r dyfarniad, mae Boris Johnson wedi cydnabod y gall cyfarfodydd y Senedd ailddechrau – gan ddod â’r broses o brorogio (gohirio) i ben.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin am 11.30yb yfory (dydd Mercher, Medi 25), yn ôl Llefarydd y Tŷ, John Bercow.

Gwrthod ymddiswyddo

Bydd Boris Johnson, sydd ar hyn o bryd yn Efrog Newydd ar gyfer cyfarfod o’r Cenhedloedd Unedig, yn dychwelyd i wledydd Prydain dros nos.

“Dw i’n llwyr wrthwynebu penderfyniad y Goruchaf Lys,” meddai’r Prif Weinidog gerbron newyddiadurwyr yn yr Unol Daleithiau.

“Mae gen i’r parch mwyaf tuag at y farnwriaeth, ond dydw i ddim yn credu mai dyma’r penderfyniad cywir. Mae’r arfer o brorogio wedi cael ei defnyddio ers canrifoedd heb y math hwn o her yn ei hwynebu.

“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw ein bod ni’n bwrw ymlaen i sicrhau Brexit ar Hydref 31, ac mae’n amlwg bod yr herwyr yn yr achos hwn eisiau rhwystro ac atal hynny.”