Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn coll o Gastell-nedd bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd Richard ‘Monkey’ Andrews o ardal Melyn wedi bod ar goll oddi ar fis Ionawr y llynedd, er mai’r tro olaf i rywun ei weld oedd ym mis Medi 2017.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar lannau afon Nedd ar Fedi 29, 2018.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru ddoe (dydd Llun, Medi 23) eu bod nhw wedi arestio dyn, 48, ar amheuaeth o’i lofruddio, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae’r elusen Taclo’r Taclau yn cynnig hyd at £10,000 o wobr am wybodaeth a allai arwain at naill ai arestio neu ddedfrydu’r person sy’n gyfrifol am lofruddiaeth Richard Andrews.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.