Mae merch 17 oed oedd wedi ffoi gyda’i rhieni rhag cyllyll Llundain wedi cael ei thrywanu i farwolaeth yn Jamaica.
Cafwyd hyd i Stefika Smith, oedd wedi symud o ardal Brixton i’r ynys yn y Caribî yn 2016, ag anafidau ar ôl iddi gael ei thrywanu unwaith yn ei gwddf.
Cafodd ei rhieni eu geni yn Jamaica.
“Roedd yna dipyn o droseddau cyllyll yn Llundain ac ro’n i am fynd â Stefika oddi wrth y peryglon hynny,” meddai ei mam Pauline wrth y Sunday People.
“Roedden ni am iddi gael yr un bywyd delfrydol ag y ces i a’m cymar wrth gael ein magu yn Jamaica.
“Ond fe wnaeth pobol ddieflig roi terfyn ar hynny.”
Does neb wedi cael ei gyhuddo o’i lladd hyd yn hyn.