Mae’n bryd i’r Blaid Lafur ethol merch yn arweinydd, yn ôl John McDonell, canghellor yr wrthblaid.
Daw ei sylwadau wrth iddo wfftio’r posibilrwydd y gallai olynu Jeremy Corbyn.
Wrth leisio barn, mae e wedi crybwyll sawl enw posib ar gyfer y swydd, gan gynnwys Becky Long Bailey, Angela Rayner, Emily Thornberry a Dawn Butler.
Does yna’r un ferch wedi arwain y blaid o’r blaen, ond mae Margaret Beckett a Harriet Harman wedi arwain y blaid dros dro.
“Pe bai Jeremy [Corbyn] yn cael ei daro gan fws rhif 57, neu beth bynang yw e, mae’r genhedlaeth nesaf yn dod drwodd,” meddai wrth The Times.
“A’r realiti yw y dylai’r arweinydd nesaf fod yn ferch.
“Mae’n hen bryd i ni gael merch.”