Mae heddlu Paris wrthi’n tawelu protestwyr sy’n ceisio atgyfodi protestiadau’r festiau melyn.

Mae ychydig gannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio ar hyd strydoedd prifddinas Ffrainc i ddangos eu dicter am bolisïau economaidd yr Arlywydd Emmanuel Macron.

Fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio nwy ddagrau ar y Champs-Elysee, yng ngorsaf drenau Saint-Lazara a’r Madeleine plaza.

Er y protestiadau, dydy’r protestwyr ddim yn gwisgo festiau melyn fel y gwnaethon nhw mewn protestiadau blaenorol.

Mae o leiaf 39 o bobol wedi cael eu harestio.