Mae protestwyr Gwrthryfel Difodiant yn ceisio creu blocâd ger porthladd Dover.
Maen nhw eisoes wedi llwyddo i gau un lôn o ffordd ddeuol sy’n mynd am y porthladd, ac yn ceisio cau’r ochr arall er mwyn tynnu sylw at yr amgylchedd.
Mae cryn oedi i deithwyr ar hyn o bryd i gyfeiriad y dwyrain, wrth i deithwyr geisio cyrraedd y fferi.
Mae adroddiadau bod y protestwyr yn glynu wrth yr A20 ac yn atal ceir rhag symud.
Mae ardal wedi’i neilltuo ar gyfer y brotest, ond mae rhai protestwyr wedi symud y tu hwnt i’r ardal honno.
Yn ôl adroddiadau, mae nifer o bobol wedi cael eu harestio.
Ymateb y protestwyr
Yn ôl y protestwyr, dydyn nhw ddim yn atal mynediad i gerbydau sy’n cludo nwyddau hanfodol fel meddyginiaeth.
Mae disgwyl i’r brotest bara rhwng 11 a 3 o’r gloch.
Maen nhw’n mynnu bod angen cynnal y brotest er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain i ymateb i’w pryderon am yr amgylchedd.