Mae John Humphrys yn dweud bod y BBC wedi methu â deall penderfyniad y bobol i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r newyddiadurwr o Gymru, sy’n gadael ei rôl yn cyflwyno rhaglen Today ar BBC Radio 4, yn cyhuddo’r Gorfforaeth o fod yn rhagfarnllyd o blaid yr asgell chwith ryddfrydol.
Mae hefyd yn ei chyhuddo o ddrysu rhwng ei buddiannau a theimladau’r cyhoedd.
Daw ei sylwadau yn y Daily Mail, sy’n cyhoeddi darnau o’i hunangofiant A Day Like Today.
“Dw i ddim yn sicr fod y BBC ar y cyfan erioed wedi deall yr hyn oedd yn digwydd yn Ewrop, na’r hyn yr oedd pobol yn y wlad hon yn meddwl amdano,” meddai.
Dweud ei ddweud
Mae’r newyddiadurwr yn dweud ei fod e bellach yn rhydd i leisio’i farn am nad yw’n gweithio i’r BBC.
Ac mae’n dweud ei fod yn parchu’r Gorfforaeth, sy’n rhan allweddol o ddemocratiaeth y Deyrnas Unedig.
Dywed fod penaethiaid y BBC yn torri eu calonnau ynghylch Brexit, gan gymharu eu hymateb â chefnogwr pêl-droed yn gwylio’i dîm yn methu cic o’r smotyn.
“Mae gan John yr hawl i’w farn a dydy e erioed wedi bod yn gyndyn o roi gwybod i ni beth mae e’n ei feddwl a thra nad ydyn ni o reidrwydd yn cytuno â’i holl safbwyntiau, mae’n dda ei weld e’n datgan fod y BBC yn ‘rym arbennig heb ei ail er daioni’ y mae mawr ei hangen ar y wlad gymaint ag erioed,” meddai llefarydd ar ran y Gorfforaeth.