Mae ffrae yn bygwth hollti’r Blaid Lafur, wrth i gynhadledd yn Brighton bleidleisio ar gynnig i ddiddymu rôl y dirprwy arweinydd, Tom Watson.

Fe fu gwrthdaro rhyngddo fe a’r arweinydd Jeremy Corbyn droeon, ac mae Tom Watson o hyd yn gwthio’r blaid i gefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm arall yn cael ei gynnal.

Yn ddiweddar, fe fu’n galw am ail refferendwm cyn etholiad cyffredinol.

Ymhlith y rhai sy’n beirniadu’r ymdrechion i’w symud o’i swydd mae Ed Miliband, cyn-arweinydd y blaid, wrth iddo ddweud fod yr ymgais yn “annemocrataidd”

Cynnig cyntaf

Cafodd cynnig i ddileu rôl y dirprwy arweinydd ei gyflwyno i’r gynhadledd ddoe (dydd Gwener, Medi 20) ond fe gafodd ei wrthod.

Pleidleisiodd yr aelodau o 17-10 o blaid trafod y cynnig, ond doedd y bleidlais ddim yn bodloni’r rheol fod rhaid i ddau draeon fod o blaid er mwyn ei drafod.