Fe fydd yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay yn cwrdd a phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener Medi 20) ar ol i Jean-Claude Juncker fynnu bod modd dod i gytundeb cyn Hydref 31.
Fe fydd Stephen Barclay yn teithio i Frwsel i gwrdd a Michel Barnier yn dilyn sylwadau calonogol llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Dywedodd Jean-Claude Juncker yn dilyn ei gyfarfod gyda Boris Johnson yn Lwcsembwrg ddydd Llun bod y trafodaethau wedi bod yn “bositif” a’i fod yn gwneud “popeth i sicrhau cytundeb” er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb.
Dywedodd llefarydd ar ran Stephen Barclay y bydd yn cwrdd a Michel Barnier yn dilyn trafodaethau rhwng ymgynghorydd y Prif Weinidg ar Ewrop, David Frost a Thasglu 50 – uned yr Undeb Ewropeaidd sy’n delio gyda Brexit.