Mae disgwyl i filoedd o bobol yng Nghymru a ledled y byd fod yn rhan o’r hyn a allai fod y brotest newid hinsawdd mwyaf mewn hanes.
Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch rhyngwladol yr ymgyrchwraig ifanc o Sweden, Greta Thunberg, sy’n galw ar lywodraethau’r byd i fynd i’r afael â newid hinsawdd cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Daw’r protestio heddiw (dydd Gwener, Medi 20) ar drothwy uwchgynhadledd frys ar y mater a fydd yn cael ei chynnal gan y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yr wythnos nesaf (Medi 23).
Yng Nghymru, mae disgwyl i bobol o bob oed, gan gynnwys pobol ifanc a gweithwyr, dyrru i’r strydoedd er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch.
Protestiadau Cymru
Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y Deyrnas Gyfunol sy’n gyfrifol am drefnu’r protestiadau yng ngwledydd Prydain.
Mae’r canlynol ymhlith y lleoliadau yng Nghymru a fydd yn ganolbwynt i’r protestio:
- Aberystwyth;
- Caerdydd;
- Y Drenewydd;
- Hwlffordd;
- Pontypridd;
- Abertawe;
- Tywyn
- Aberhonddu
Cefnogaeth yr undebau llafur
Mae cyngres undebau llafur Cymru, TUC Cymru, yn cefnogi’r ymgyrch fyd-eang, ac mae disgwyl i gannoedd o aelodau’r corff orymdeithio heddiw.
“Fel undebwyr llafur, byddwn yn cefnogi’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd i helpu i warchod y blaned i’n plant a’n hwyrion yn ogystal â sefyll dros weithwyr lle mae eu swyddi mewn perygl,” meddai llefarydd ar ran TUC Cymru.
“Mae angen i ni gymryd camau i wneud y trawsnewid i economi wyrddach yn un cyfiawn sy’n rhoi lle canolog i weithwyr.”