Mae’r Cynulliad wedi datgan ei “gwrthwynebiad” at sefyllfa wleidyddol Catalwnia trwy gynnal lansiad llyfr yn y Senedd.
Dyna farn Menna Elfyn, y bardd a sgwennodd Murmur, ac a fu ynghlwm â lansiad y cyfieithiad Catalaneg Murmuri ddydd Mercher (Medi 18).
Mae’r caethiwed yn thema amlwg yn y gyfrol, ac mae’r llyfr eisoes wedi cael ei chyflwyno i wleidyddion Catalanaidd sydd wedi’u carcharu gan Lywodraeth Sbaen.
Yn groes i ewyllys Sbaen mi gynhaliodd Catalwnia refferendwm annibyniaeth yn 2017, ac yn ei sgil cafodd sawl gwleidydd amlwg eu carcharu. Ymateb i hyn oedd y lansiad, yn ôl y bardd.
“Roedd lansiad y llyfr yn ffordd o hyrwyddo neges ynglŷn â charchariad a gwrthwynebiad Senedd Cymru i’r ffaith bod y rhain yn y carchar o hyd,” meddai wrth golwg360.
“A’u bod nhw wedi gweithredu yn ddemocrataidd fel Seneddwyr.”
Catrin Glyndŵr
 chaethiwed yn thema, mae prif gerddi’r gyfrol yn mynd i’r afael â charchariad Catrin Glyndŵr, merch y tywysog canoloesol, a’i phlant.
Cafodd ei dal gan y Saeson yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Edmund Mortimer, a chafodd ei chaethiwo â’i merched yn Nhŵr Llundain.
Rhai dyddiau cyn y lansiad roedd hi’n Ddiwrnod Owain Glyndŵr (Medi 16), ac mae Menna Elfyn yn teimlo bod hynny’n tynnu sylw at hynny.
“Mae’n addas iawn hefyd ei fod wedi’i lansio yn wythnos Owain Glyndŵr yn cael ei gofio,” meddai. “Mae Catrin Glyndŵr wedi cael ei hanghofio, ond mae’n cael ei chofio mewn cerddi.”
“Creu pontydd”
Dyw’r bardd ddim am gyfyngu’i gwaith i’r Gymraeg ar Gatalaneg yn unig ac mae cyfieithiadau Eidaleg ac Arabeg o’i llyfrau eraill ar y gweill.
Mae’n jocian ei bod yn byw “rhwng cyfieithwyr, ac ieithoedd, a gwledydd” ac mae’n sôn am sut mae gwaith creadigol yn medru creu cysylltiadau rhwng gwledydd.
“Llenyddiaeth a barddoniaeth yw unig bethau sy’n gallu croesi ffiniau a gwledydd heb basborts a fisas,” meddai. “Ac maen nhw’n gallu creu pontydd.”
Digwydd bod ‘pont’ yw’r gair am ‘bont’ yn y Gatalaneg, ‘murmuri’ yw ‘murmur’, ac mae ‘mantell’ yn union yr un peth yn y ddwy iaith. Mae’r bardd yn hoff o’r cyd-ddigwyddiad hapus yma.
“Mae yna lot o eiriau,” meddai. “Er nad yw’n iaith perthyn i’r Gymraeg. Mae’n rhyfedd sut mae ieithoedd rhywsut wedi dod i’r un math o seiniau a geiriau.”
Y lansiad
Roedd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, a’r Llywydd, Elin Jones wedi cymryd rhan yn y digwyddiad – mae Aelod Cynulliad Ceredigion wedi ymweld ag un o’r carcharorion Catalanaidd, Carme Forcadell, yn ei chell.
A daeth prif lansiad y Senedd yn sgil lansiad gyntaf canolfan Yr Egin, yng Nghaerfyrddin.