Mae Jeremy Corbyn yn awgrymu y gall aros yn niwtral mewn refferendwm arall ar Brexit, wrth iddo roi’r addewid y bydd y Blaid Lafur yn cynnig opsiwn “synhwyrol” tros adael.
Daw ei sylwadau ychydig ddyddiau cyn cynhadledd flynyddol ei blaid pryd mae disgwyl iddo ddod o dan bwysau i gymryd safbwynt mwy cadarn o blaid Aros.
Yn ôl Jeremy Corbyn, bydd Llywodraeth Lafur yn ffurfio cytundeb newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, cyn ei gyflwyno i’r bobol mewn refferendwm ochr yn ochr ag opsiwn o blaid Aros.
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.
‘Annemocrataidd diystyru canlyniad 2016’
“Mae [Boris] Johnson eisiau ymadawiad sydyn heb gytundeb,” meddai Jeremy Corbyn ym mhapur The Guardian.
“Mae hynny’n rhywbeth sy’n cael ei wrthwynebu gan fusnesau, diwydiannau, yr undebau llafur a’r rhan fwyaf o’r cyhoedd – ac mae hyd yn oed cyd-gynullydd yr ymgyrch Gadael, Michael Gove, wedi dweud yn gynharach yn y flwyddyn: “Wnaethon ni ddim pleidleisio tros adael heb gytundeb.
“A bellach, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau i Aelodau Seneddol wyrdroi canlyniad y refferendwm drwy dynnu Erthygl 50 yn ôl.
“Mae’n annemocrataidd diystyru penderfyniad y mwyafrif o bleidleiswyr heb fynd yn ôl at y bobol.”
Gwahaniaeth barn o fewn Llafur
Mae sawl aelod blaenllaw o gabinet yr wrthblaid, gan gynnwys Emily Thornberry a John McDonnell, wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi Aros mewn refferendwm arall.
Mae’r dirprwy arweinydd, Tom Watson, wedi mynd cam ymhellach drwy alw am gynnal refferendwm cyn etholiad cyffredinol.
Bydd cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn cael ei chynnal yn Brighton rhwng Medi 21 a 25.