Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod ymladdwr tân, 35, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gwch mewn marina yn Sir Benfro.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe gawson nhw eu galw i farina Neyland ger Aberdaugleddau am tua 11.30yb ddoe (dydd Mawrth, Medi 17).
“Gallwn gadarnhau bod ymladdwr tân, 35, a oedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi marw yn ystod y digwyddiad wedi i ddau gwch wrthdaro,” meddai’r llu.
“Mae ein meddyliau gyda ei deulu a’i gydweithwyr.”
Ychwanega’r heddlu y byddan nhw’n cydweithio â’r Bwrdd Ymchwilio i Ddamweiniau Morol wrth ymchwilio i’r digwyddiad.