Mae Prif Weinidog Lwcsembwrg wedi cythruddo Aelodau Seneddol Ceidwadol ar ôl iddo feirniadu Boris Johnson yn hallt mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Llun, Medi 16).

Roedd podiwm wag gerllaw Xavier Bettel yn y gynhadledd wedi i Brif Weinidog Prydain wrthod annerch newyddiadurwyr ar y funud olaf.

Yn ôl swyddfa Boris Johnson, roedd wedi penderfynu peidio â bod yno oherwydd sŵn y protestwyr gwrth-Brexit y tu allan i Weinyddiaeth y Wladwriaeth yn Lwcsembwrg.

Fe fanteisiodd Prif Weinidog Lwcsembwrg ar y sefyllfa ac, mewn anerchiad, fe gwynodd fod dyfodol dinasyddion ledled yr Undeb Ewropeaidd yn y fantol wrth i Boris Johnson geisio “ennill tir gwleidyddol”.

Mae’n debyg bod swyddogion Prydain wedi gwneud cais i symud y gynhadledd, ond cafodd ei wrthod oherwydd nad oedd digon o le ar gyfer yr holl newyddiadurwyr y tu mewn i adeilad y weinyddiaeth.

Beirniadu Lwcsembwrg

Mewn ymateb i’r digwyddiad, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol a’r Brexitiwr, Daniel Kawczynski, fod y gynhadledd yn profi bod angen i wledydd Prydain adael “strwythur artiffisial a ffroenuchel yr Undeb Ewropeaidd” cyn gynted â phosib.

Yn ôl y cyn-weinidog Brexit, David Jones, fe wnaeth Xavier Bettel “gamgymeriad mawr” trwy ymddwyn yn y fath modd.

“Does dim amheuaeth gen i fod nifer yn Lwcsembwrg yn synnu at ymddygiad anghyffredin y Prif Weinidog,” meddai.

Mae hyd yn oed Syr Nicholas Soames, ŵyr i Winston Churchill a chyn-Aelod Seneddol Ceidwadol erbyn hyn, wedi amddiffyn Boris Johnson.

“Dyna ymddygiad gwael iawn gan Lwcsembwrg,” meddai. “Roedd Boris Johnson yn iawn i osgoi cael ei wneud yn ffŵl.”