Mae Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi amddiffyn safiad ei phlaid ar fater Brexit.
Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n canslo ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd pe baen nhw’n dod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Dw i’n gwbl benderfynol ein bod ni’n cadw ein lle yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“A dw i ddim wedi rhoi’r gorau i [gredu].
“Dw i’n dal i gredu y gallwn ni atal Brexit.”
Ond mae’n gwrthod dweud a fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgyrchu i ddychwelyd i’r Undeb Ewropeaidd pe bai Brexit yn mynd rhagddo.
Daw ei sylwadau wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson gwrdd a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker yn Lwcsembwrg heddiw (dydd Llun, Medi 16). Mae eisoes wedi dweud na fydd yn gohirio Brexit y tu hwnt o Hydref 31.