Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 75 oed yn ei gartref yn Dorset.
Cafwyd hyd i’w gorff yn Weymouth ddydd Sadwrn diwethaf (Medi 7).
Mae archwiliad post-mortem yn dangos ei fod e wedi cael ei anafu mewn ymosodiad.
Mae tri o bobol wedi cael eu harestio – dynes 28 oed a dyn 38 oed ar amheuaeth o lofruddio, a dyn 37 ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae lle i gredu bod y ddynes yn adnabod y dyn fu farw.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.