Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen bach a gafodd ei achub o afon.
Cafodd corff Zakari William Bennett-Eko, 11 mis oed, ei dynnu o’r dwr gan ddiffoddwyr tan yn dilyn adroddiadau bod plentyn yn Afon Irwell yn Radcliffe, ger Manceinion tua 4.25yp ddydd Mercher (Medi 11).
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.
Mae Zak Eko, 22, wedi’i gyhuddo o lofruddio’r bachgen ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Manceinion heddiw (dydd Gwener, Medi 13).