Mae economi Prydain wedi tyfu’n gyflymach na’r disgwyl ym mis Gorffenaf, gan leddfu gofidion y gallai arwain at ddirwasgiad.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), tyfodd yr economi 0.3% ym mis Gorffenaf.

Dyma welliant ar y cyfyngiad o 0.2% a welwyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Achosodd y cyfyngiad hwn ofidion fod yr economi yn anelu at ddirwasgiad.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Tra bod y rhan fwyaf o’r economi, y sector  gwasanaethau, wedi dechrau gwella yn ystod mis Gorffenaf, mae’r ffigurau’n dangos fod tyfiant gwasanaethau yn gwanhau drwy gydol 2019.”