Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd y cyn-gyfreithiwr ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2005, a chyn hynny bu’n Aelod Cynulliad rhanbarthol tros Ogledd Cymru am gyfnod yn dilyn ymddiswyddiad Rod Richards.

Mae’n gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac, yn fwy diweddar, bu’n Weinidog Brexit yn Llywodraeth Theresa May.

“Dw i wedi penderfynu – yn 67 oed – ei bod hi’n bryd i mi gyhoeddi y bydda i’n camu o’r neilltu, er mwyn galluogi Cymdeithas Geidwadol Gorllewin Clwyd i ddewis fy olynydd,” meddai David Jones.

“Ar lefel bersonol, fe hoffwn dreulio mwy o’m hamser gyda fy nheulu, sydd wedi fy nghefnogi dros nifer mawr o flynyddoedd ac sydd – fel holl deuluoedd Aelodau Seneddol – wedi gorfod delio â’r pwysau anochel a ddaw o fywyd Seneddol.”

Ychwanega: “Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf cael cynrychioli pobol Gorllewin Clwyd yn San Steffan, ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny’n eiddgar tan fod etholiad cyffredinol yn cael ei alw.

“Fe fydda i hefyd yn parhau i gefnogi’n frwd y Prif Weinidog yn ei ymdrech i barchu canlyniad y refferendwm yn 2016, ac i arwain gwledydd Prydain at ddyfodol newydd a gwell y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”