Mae Yasmin Begum, oedd i fod ymhlith y siaradwyr yn yr orymdaith ym Merthyr ddydd Sadwrn, yn cyhuddo’r mudiad annibyniaeth yng Nghymru o fod yn “hiliol”.
Doedd y Gymraes, sydd o dras Bacistanaidd, ddim wedi gallu cyrraedd y dref oherwydd fod y trenau wedi’u gorlenwi.
Roedd 5,200 o bobol yn yr orymdaith, yn ôl ffigurau’r trefnwyr.
“Fe fu bron i fi siarad yn @AUOBCymru ond wnes i ddim, ac yna roedd rhywun oedd yn agos i un o’r trefnwyr yn hiliol tuag ata’ i,” meddai mewn neges ar ei thudalen Twitter.
“Nawr dw i wedi darganfod fod grŵp Natsïaidd wedi ceisio treiddio i mewn i’r grŵp.”
‘Bygythiad o Natsïaeth’
Mewn neges arall, mae’n beirniadu Pawb Dan Un Faner, prif drefnwyr yr orymdaith, am iddyn nhw “fethu ag anfon e-bost o amgylch am unrhyw fygythiadau Natsïaidd”, cyn mynd yn ei blaen i ofyn “pam trafferthu? Roedd un ohonyn nhw’n hiliol tuag ata’ i.”
Mae hi’n cwestiynu pa mor ddiogel fyddai’r orymdaith iddi pe bai “Natsïaid” yno, a pham fod cyn lleied o arweinwyr y mudiad annibyniaeth yn dod o gefndiroedd lleiafrifol, gan ddweud bod hynny’n arwain at “ddiffyg cydraddoldeb”.
Mae’n dweud ei bod hi wedi cysylltu â’r aelod o fudiad Pawb Dan Un Faner mae’n ei chyhuddo o fod yn hiliol, yn ogystal ag unigolyn arall, ond bod y ddau yn ei “hanwybyddu” ac wedi ei blocio hi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yes Cymru yn ‘anghytuno â’i dadansoddiad’
Wrth siarad â golwg360, mae Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru ac un o gyd-drefnwyr y digwyddiadau ym Merthyr, yn dweud ei fod yn “anghytuno â dadansoddiad” Yasmin Begum ynghylch y croeso iddi yn y mudiad.
“Mae’n un o’r bobol sydd wedi bod ynghlwm ers y dechrau yn y gorymdeithiau.
“Mae ganddi gyfraniad pwysig i’w wneud, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed ei chyfraniadau yn y dyfodol.”