Cafodd ymdrech Llywodraeth Dorïaidd Boris Johnson i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ergyd neithiwr (nos Fawrth, Medi 3) wedi i fwyafrif yr Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid cymryd rheolaeth o fusnes y Senedd.
Pleidleisiodd 328 o aelodau bleidleisio o blaid y cais i gymryd rheolaeth o’r amserlen dros y dyddiau nesaf, gyda 301 yn erbyn – mwyafrif o 27.
Pleidleisodd holl aelodau Plaid Cymru, y Blaid Lafur yng Nghymru, a’r AS Ceidwadol Conwy Guto Bebb ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds yn erbyn y Llywodaeth.
.Mae disgwyl i’r grŵp trawsbleidiol, sy’n cynnwys rhai aelodau Ceidwadol, gyflwyno deddf heddiw allai orfodi’r Prif Weinidog i oedi Brexit nes dechrau’r flwyddyn nesaf.
Byddai’r ddeddf yn gorfodi Mr Johnson i ofyn am estyniad i Brexit tan Ionawr 31 oni bai fod ASau’n cymeradwyo cytundeb newydd, neu o blaid gadael heb gytundeb, erbyn Hydref 19.
Cais am etholiad cyffredinol
Fel ymateb i’r canlyniad dywedodd Boris Johnson y byddai’n cyflwyno cais am etholiad cyffredinol cynnar.
Ychwanegodd nad oedd ganddo ddewis ond bwrw ’mlaen gyda’r ymdrechion i alw etholiad fis nesaf, gan ddweud: “Bydd yn rhaid i bobl y wlad ddewis.”
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn bod angen pasio’r ddeddf cyn canolbwyntio ar etholiad. Mae’n dweud ei fod yn barod am etholiad.