Mae’r gyrrwr tacsi John Worboys wedi gorfodi dynes roedd wedi ei threisio i roi tystiolaeth mewn gwrandawiad llys wrth iddo apelio yn erbyn dedfryd oes o garchar.

Cafodd y dyn 62 oed, sydd bellach yn defnyddio’r enw John Derek Radford, ei garcharu am oes, ac fe gafodd wybod yn 2009 y byddai’n rhaid iddo fe dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.

Cafwyd e’n euog o 12 o droseddau yn erbyn menywod oedd wedi teithio yn ei dacsi cyn iddo fe roi siampên iddyn nhw ac ymosod yn rhywiol arnyn nhw.

Roedd disgwyl iddo fe wynebu dedfryd arall o garchar mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Llun, ond mae e bellach yn cwestiynu dyddiad un o’r ymosodiadau.

Mae’n dweud bod y drosedd gyntaf wedi digwydd dipyn yn hwyrach na’r hyn sydd wedi’i nodi, sy’n golygu bod yr amrediad amser yn fyrrach o lawer ac felly fe allai gael ei garcharu am lai o amser.

Bydd yn rhaid i’r barnwr wneud penderfyniad cyn ei ddedfrydu ar Dachwedd 4.

Cyhuddiadau

Plediodd John Worboys yn euog i ddau gyhuddiad o roi cyffur gyda’r bwriad o dreisio neu ymosod yn anweddus, yn ogystal â dau gyhuddiad o roi cyffur gyda’r bwriad o gyflawni trosedd ryw.

Mae disgwyl iddo gael llawdriniaeth yn y dyfodol agos, ond fe allai roi tystiolaeth i’r gwrandawiad serch hynny.