Mae sôn y bod arweinydd Torïaid yr Alban, Ruth Davidson, yn mynd i sefyll i lawr o’i rôl ar ôl penderfyniad Boris Johsnon i ohirio’r Senedd.

Dywed llefarydd y cyn newyddiadurwraig, sydd wedi bod yn y swydd ers wyth blynedd, “y bydd hi’n gwneud ei phenderfyniad yn y dyfodol agos”.

Fe ymgyrchodd Ruth Davidson i gadw gwledydd Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016 ac mae hi a Boris Johnson wedi anghytuno dros aelodaeth gwledydd Prydain ynddi yn y dyfodol.

Mae Ruth Davidson wedi bod yn reit leisiol wrth ddangos gwrthwynebiad i Boris Johnson. Fe gefnogodd hi Sajid Javid ac yna Jeremy Hunt yn y ras am arweinydd newydd.

Yn ôl arweinydd Llafur yr Alban, Richard Leonard, byddai colli Ruth Davidson “yn ergyd fawr i’w phlaid.”

“Mae hyn yn dangos bod Boris Johnson, hyd yn oed o fewn ei rengoedd ei hun, eisoes yn colli cefnogaeth ac ymddiriedaeth,” meddai.