Mae pentref yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn y teitl ‘Cymuned Ddi-blastig’ yn dilyn ymgyrch gan drigolion lleol.

Mae Talacharn – cartref y bardd Dylan Thomas – wedi cael ei gydnabod gan yr elusen Surfers Against Sewage (SAS), ac yn un o’r 500 o gymunedau ledled gwledydd Prydain sy’n ymdrechu leihau’r defnydd o blastig untro.

Cafodd yr ymgyrch yn Nhalacharn ei sefydlu fis Medi y llynedd, ac ers hynny mae trigolion wedi bod yn cydweithio â busnesau a sefydliadau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr effaith mae plastig yn ei gael ar yr amgylchedd.

“Mae gwobr yr SAS wedi bod yn hwb mawr i ni,” meddai Glynis Sampey o’r grŵp Plastic Free Laugharne.

“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith ein bod ni wedi cael dechrau da i’r ymgyrch, ond mae yna lawer iawn rhagor i’w wneud eto er mwyn lleihau’r defnydd o blastig untro yma.”

Mae Aberporth a Chei Newydd yng Ngheredigion, yn ogystal â Penarth ger Caerdydd, ymhlith cymunedau eraill yng Nghymru sydd eisoes wedi derbyn y teitl ‘Cymuned Ddi-blastig’.