Mae 353 o bobol wedi cael eu harestio dros ddeuddydd carnifal Notting Hill yn Llundain, gyda hanner yr arestiadau yn gysylltiedig â chyffuriau.

Dywed Scotland Yard y cafodd 242 eu harestio ddoe (dydd Llun, Awst 27), gyda 11 o arestiadau’r diwrnod gynt.

Roedd o leiaf 30 o swyddogion Heddlu’r Met wedi dioddef o fan anafiadau erbyn 10.10 neithiwr, gyda 37 o arestiadau am ymosodiadau ar yr heddlu.

Cafodd 37 o bobol eu harestio am fod ac arfau yn eu meddiant, a 162 am fod a chyffuriau.

Roedd yr heddlu wedi cael pwerau stopio a chwilio ychwanegol ar gyfer y digwyddiad o dan orchymyn adran 60.

“Er fy mod yn hapus â rhedeg y dathliadau yn llyfn, rwyf, unwaith eto, yn hynod siomedig bod nifer o bobl yn teimlo y gallent ymosod ar fy swyddogion sydd yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn i geisio amddiffyn pawb sy’n bresennol,” meddai Dave Musker, prif swyddog Heddlu’r Met ar gyfer Carnifal Notting Hill 2019.