Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau bod gwledydd Prydain yn profi ei ddydd Llun gŵyl banc ddiwedd Awst poethaf erioed.
Roedd maes awyr Tibenham yn Norfolk eisoes yn cofnodi tymheredd o 28.6C (83.5F) erbyn canol y bore, gan guro’r record flaenorol o 28.2C (82.7F) yn Holbeach yn 2017.
Erbyn y prynhawn, cododd y tymheredd i 33.1C (91.9F) ym maes awyr Heathrow. Trawsgoed yng Ngheredigion oedd y lle cynhesaf yng Nghymru gyda thymheredd uchaf o 24.3C.
Roedd y tywydd braf heddiw yn barhad ar benwythnos o dorri recordiau.
Ddoe, profodd Cymru a Lloegr eu tymheredd uchaf erioed ar gyfer y penwythnos hwn o fis Awst – 28.6C ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint, a 33.3C (92F) ym maes Awyr Heathrow.