Mae bachgen 14 oed wedi cael ei gyhuddo ar ôl tan anferthol mewn ysgol yn yr Alban.
Fe fu dros 80 o ddiffoddwyr tân wrthi drwy’r nos yn ymladd y tân yn yr ysgol yn Dunfermline, ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw am 5.05 bnawn ddoe.
Dywed Heddlu’r Alban eu bod yn trin y tân fel un amheus ac i fachgen 14 oed gael ei arestio, ac y bydd yn ymddangos gerbron Llys Sheriff Dunfermline yfory.
Oherwydd maint y difrod drwy’r holl ysgol, mae trefniadau wrthi’n cael eu gwneud i geisio lleoedd dros dro mewn ysgolion eraill i’r 1,400 o ddisgyblion.