Bydd Boris Johnson yn teithio i Berlin a Paris yr wythnos hon er mwyn galw am gytundeb Brexit newydd, ar adeg pan mae Rhif 10 yn ceisio lleddfu ofnau ynglŷn â dogfennau cyfrinachol sy’n sôn am Brexit heb gytundeb.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud wrth Angela Merkel ac Emmanel Macron bod gwledydd Prydain yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, doed a ddelo.

Ond mae ei lywodraeth wedi gorfod wynebu cwestiynau wrth i ddogfennau, sydd wedi deillio o Whitehall ei hun, gynnwys rhybuddion difrifol ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os na fydd cytundeb.

Dim cytundeb – rhybuddion difrifol

Wedi eu cyhoeddi ym mhapur y Sunday Times, mae’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘Operation Hammer’ yn rhybuddio y byddai gwledydd Prydain yn wynebu “argyfwng” yn eu porthladdoedd, ffin galed ag Iwerddon, a phrinder bwyd a meddyginiaeth os na fydd cytundeb Brexit.

Dywedodd uwch swyddog yn Whitehall nad ymgais i “godi ofn” yw’r dogfennau, ond “yr asesiad mwyaf realistig o’r hyn mae’r cyhoedd yn ei wynebu gyda dim cytundeb”.

“Mae’r rhain yn senarios sydd gyda’r mwyaf tebygol, syml a synhwyrol,” meddai.

Yn ôl y dogfennau, fe allai tollau ar danwydd arwain at gau dwy burfa olew, tra bydd protestio ledled gwledydd Prydain yn gofyn am “nifer sylweddol o adnoddau’r heddlu” mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gallai Gibraltar wynebu hyd at bedair awr o oedi ar y ffin â Sbaen, a hynny am “o leiaf ychydig o fisoedd”.

Wfftio’r dogfennau

Mae Rhif 10 yn mynnu bod y dogfennau bellach wedi dyddio, ac yn rhoi’r bai ar gyn-weinidog am eu rhyddhau i’r wasg.

“Mae’r ddogfen o gyfnod pan oedd gweinidogion yn ceisio atal yr hyn a oedd angen cael ei wneud er mwyn bod yn barod i adael, a’r arian ddim ar gael,” meddai llefarydd.

“Maen nhw wedi cael eu rhyddhau yn fwriadol gan gyn-weinidog sy’n ceisio dylanwadu ar y trafodaethau gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r rheiny sy’n ceisio rhwystro paratoadau ddim yn rhan o’r Llywodraeth bellach; mae £2bn o arian ychwanegol bellach ar gael; ac mae Whitehall bellach yn gwneud y gwaith sydd angen cael ei wneud drwy gyfrwng cyfarfodydd dyddiol.

“Mae osgo’r Llywodraeth wedi newid yn gyfan gwbl.”