Mae Boris Johnson am fynnu cytundeb Brexit newydd pan fydd yn cyfarfod ag Angela Merkel ac Emmanuel Macron yn ystod ei daith dramor gyntaf yn brif weinidog Prydain.

Fe fydd yn egluro wrth Ganghellor yr Almaen a phrif weinidog Ffrainc y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 doed a ddêl.

Ac mae disgwyl iddo fe ddweud nad oes modd gwneud tro pedol ar ganlyniad y refferendwm yn 2016, a bod rhaid cael cytundeb newydd yn lle’r hyn a gytunodd ei ragflaenydd Theresa May.

Serch hynny, fe fydd “ychydig iawn o drafod ar Brexit” yn ystod y daith, yn ôl Downing Street.

Ond mae disgwyl i’r tri drafod agenda’r G7 yr wythnos nesaf.

Brexit heb gytundeb

Daw ymweliad Boris Johnson ar ôl i fanylion Brexit heb gytundeb gael eu gollwng i’r wasg.

Mae disgwyl tri mis o drafferthion mewn porthladdoedd, ffin galed yn Iwerddon a phrinder bwyd a meddyginiaeth pe bai Brexit heb gytundeb yn mynd rhagddo.

Dyna ddywed dogfennau Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi yn y Sunday Times.

Ac yn ôl un o swyddogion Whitehall, mae’r ddogfen yn cynnwys “yr asesiad mwyaf real” o’r sefyllfa, heb godi ofn yn ddi-angen.