Mae Heddlu’r De yn dweud iddyn nhw ddod o hyd i gorff dyn wrth chwilio am Andrew Arundell o’r Rhondda.
Cafwyd hyd i’r corff brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 17).
Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae ei deulu a’r crwner wedi cael gwybod.
Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth gyda’r apêl.