Trigolion Caerdydd yw’r nawfed mwyaf hael gyda’u harian wrth roi cildwrn i weithwyr tra eu bod nhw ar eu gwyliau, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl yr ystadegau, mae 40% o drigolion Caerdydd yn rhoi cildwrn i weithwyr mewn bwytai.
Trigolion Glasgow sydd ar frig rhestr Caxton FX, sydd wedi holi 2,000 o drigolion 17 o ddinasoedd yng ngwledydd Prydain am eu harferion o roi cildwrn mewn amryw o lefydd.
Trigolion Bryste yw’r lleiaf hael, gyda 19.2% yn dweud nad ydyn nhw fyth yn rhoi cildwrn i yrwyr tacsis na glanhawyr.
Ar y cyfan, dywedodd 7.4% o drigolion gwledydd Prydain nad ydyn nhw fyth yn rhoi cildwrn, tra bod 13.6% yn dweud nad yw safon y gwasanaeth yn amharu ar eu dymuniad i roi cildwrn.
Dywedodd 18.9% eu bod nhw’n rhoi cildwrn am wasanaeth rhagorol yn unig.
Mae 12.6% yn dweud eu bod nhw’n ildio i’r disgwyl y dylen nhw roi cilwrn, tra bod 10.4% yn ystyried safon y bwyd cyn rhoi cildwrn mewn bwyty.
Dywedodd 15% nad ydyn nhw’n rhoi cildwrn os oes yna ffi gweini eisoes yn rhan o’r pris.
Yn ôl Caxton FX, un o’r prif resymau dros beidio â rhoi cildwrn yw’r ansicrwydd i bwy mae’r arian yn mynd.
Y dinasoedd hael – o’r gorau i’r gwaethaf:
1. Glasgow
2. Sheffield
3. Lerpwl
4. Belffast
5. Caeredin
6. Manceinion
7. Norwich
8. Southampton
9. Caerdydd
10. Brighton
11. Newcastle
12. Plymouth
13. Llundain
14. Leeds
15. Birmingham
16. Nottingham
17. Bryste