Mae ymchwil i lofruddiaeth ar y gweill, ar ôl i blismon gael ei ladd yn Sulhamstead, Berkshire.
Roedd Andrew Harper wedi mynd i ymchwilio i achos o ladrata mewn adeilad yno, meddai Heddlu Thames Valley, pan gafodd ei ladd.
Mae deg o bobol wedi cael eu harestio dan amheuaeth o lofruddiaeth, ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.