Mae ditectfs sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 54 oed yn Abertawe ar Orffennaf 18, wedi cyhuddo dyn arall o’i lofruddio.
Roedd Colin Thomas Payne, 61, o’r ddinas eisoes wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, ond mae bellach wedi’i gyhuddo o lofruddio Mark Bloomfield ar y Stryd Fawr.
“Bu farw Mr Bloomfield o ganlyniad i’w anafiadau ychydig ddyddiau wedi’r ymosodiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
“Rwy’n gwybod fod yna nifer o bobol yn yr ardal a’r tu mewn i dafarn y Full Moon tua 3.10yp ar Orffennaf 18 pan ddigwyddodd yr ymosodiad… ac mae rhai ohonyn nhw wedi bod mewn cysyltiad â ni.
“Ond rydyn ni’n dal yn awyddus i siarad â mwy o bobol a allai fod wedi gweld unrhyw beth.”