Mae prifardd ac academydd a dreuliodd gyfnod yn byw yn yr Unol Daleithiau adeg ethol Donald Trump yn arlywydd, yn dweud bod yna “debygrwydd” rhwng lleiafrifoedd yno ac yng Nghymru.
Fe dreuliodd yr Athro Tudur Hallam a’i deulu bron i wyth mis yn byw ac yn gweithio yn ninas Houston, Tecsas, rhwng 2016 a 2017.
Ei fyfyrdodau o’r cyfnod hwnnw, ynghyd â cherddi eraill, yw ffrwyth ei gyfrol gyntaf o gerddi, Parcio (Cyhoeddiadau Barddas).
Yn ôl y bardd ei hun, fe fu byw mewn dinas “amlddiwylliannol”, a oedd yn cynnwys pobloedd o dras Fecsicanaidd, Asiaidd ac Affro-Americanaidd, yn brofiad “cadarnhaol”.
Ac mae’n credu bod ymateb y bobloedd hyn tuag at weinyddiaeth Donald Trump yn debyg i ymateb y Cymry Cymraeg tuag at Brexit a gwleidyddiaeth y dydd.
“Dw i’n credu bod yr hyn sy’n digwydd yn annog pobol i fod yn fwy gweithgar eu hunain o safbwynt gwarchod eu diwylliant,” meddai Tudur Hallam wrth golwg360.
“Yn sicr, roeddwn i’n gweld hynny o safbwynt y Latinos i’r sefyllfa yn America, a dw i’n gweld hynny hefyd yng Nghymru gyda chefnogaeth i Yes Cymru.
“Mae Brexit wedi gwneud i ni gwestiynu ein perthynas wleidyddol ni gyda’r sefydliad fel y mae. Ac felly yn America mae pobol yn ymroi fwyfwy wrth i’r weinyddiaeth geisio cau allan amrywiaeth leisiol.
“Mae pobol yn gweld bod yna angen iddyn nhw godi llais eu hunain.”