Mae’r Unol Daleithiau wedi galw ar awdurdodau Gibraltar i beidio â rhyddhau tancer olew Iran.
Cafodd y llong ei stopio gan filwyr Prydeinig ar Orffennaf 4 gan danio tensiynau ag Iran, ac roedd disgwyl iddi gael ei rhyddhau.
Ond bellach mae Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau wedi galw bod y tancer yn cael ei dal am ragor o amser.
Bydd cais yr Unol Daleithiau yn cael ei ystyried, ac mae disgwyl gwrandawiad llys am 3.00yp.
Yn ôl llywodraeth Gibraltar, yn sail i’r cais yma mae “sawl honiad” ac mae’r rheiny bellach yn “cael eu hystyried”.
Hyd yma dyw Iran ddim wedi ymateb, ond mae’r cam yn debygol o waethygu tensiynau rhwng y wlad honno a’r Unol Daleithiau.