Fe fydd dyn 56 oed yn mynd gerbron llys bore ma (dydd Gwener, Awst 9) ar gyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl i blismon gael ei drywanu yn ei ben.
Mae Muhammed Rodwan, 56, o Luton hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Leyton, dwyrain Llundain am tua hanner nos, nos Iau (Awst 8).
Fe fydd Muhammed Rodwan yn mynd gerbron Llys Ynadon Tafwys bore ma.
Mae’r plismon, 28 oed, yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog. Digwyddodd yr ymosodiad wrth iddo geisio stopio fan yr oedd yn credu oedd heb yswiriant. Fe lwyddodd i ddefnyddio ei taser ar y dyn er ei fod wedi’i anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad.