Fe ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol fod yn un ‘ddi-dâl a di-ffens’ pan fydd yn ymweld â Cheredigion y flwyddyn nesaf, yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith y brifwyl honno.
Yn ôl Elin Jones, fe ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol wneud yr hyn a wnaed ym Mae Caerdydd y llynedd yn “rhywbeth arferol”, ac y dylai trefnwyr y brifwyl a Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau ynglŷn â’r mater.
“Bydden i wrth fy modd yn gweld [Eisteddfod ddi-dâl], achos dw i’n credu mai dyna’r ffordd i gael yr amrywiaeth o bobol i faes yr Eisteddfod – pobol sydd erioed wedi bod a heb feddwl am ddod, ond â rhyw fath o chwilfrydedd ynddyn nhw i weld beth sy’n digwydd,” meddai Elin Jones wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y bore yma (dydd Gwener, Awst 9).
“Efallai fod y pris mynediad yn rhwystr i hynny ddigwydd, ac fe fydden i wrth fy modd yn gweld yr Eisteddfod heb ffens ac yn ddi-dâl yn Nhregaron.”
Y gwledig a’r cyfoes
Wrth edrych ymlaen at y brifwyl yng Ngheredigion yn 2020, dywed Elin Jones mai ei gobaith yw gweld gŵyl a fydd yn gyfuniad o’r gwledig a’r cyfoes, ac yn “cynrychioli amrywiaeth bywyd cefn gwlad erbyn hyn.”
Mae’n ychwanegu mai “Eisteddfod ifanc” fydd hi hefyd, wrth i nifer o bobol ifanc fod yn rhan o’r trefnu.
“Mae wedi bod yn gymaint o galondid i fi gadeirio’r pwyllgor gwaith gyda chymaint o bobol ifanc yn rhan o’r pwyllgor gwaith, a chymaint o bobol ifanc yn arwain y codi arian yn eu cymunedau nhw hefyd,” meddai Elin Jones wedyn.
“Felly mae hynny i gyd yn rhywbeth pwysig iawn i sicrhau fod y bobol ifanc… yn cario ymlaen y dyhead o gynnal Cymreictod yn ein cymunedau ni yng Ngheredigion yn dilyn yr Eisteddfod.”