Mae Rhif 10 wedi mynnu bod angen i’r Undeb Ewropeaidd “newid ei safbwynt” er mwyn sicrhau cytundeb Brexit, wrth i swyddogion ym Mrwsel awgrymu bod Llywodraeth Prydain yn canolbwyntio ar ymadawiad heb gytundeb.

Mae’r Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, yn awyddus i gynnal trafodaethau er mwyn dod i gytundeb newydd, ond mae angen i’r Undeb Ewropeaidd “ailfeddwl” ei safbwynt a chyflwyno newidiadau i’r Cytundeb Ymadael, meddai Stryd Downing ymhellach.

Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau bod diplomyddion ym Mrwsel wedi cael eu briffio yn dilyn cyfarfod rhwng prif ymgynghorydd Boris Johnson, David Frost, ac uwch-swyddogion yr Undeb Ewropeaidd.

‘Dim cynllun arall’

Cafodd David Frost ei anfon i Frwsel er mwyn cyfleu’r neges y byddai gwledydd Prydain yn gadael ar Hydref 31 “beth bynnag yw’r amgylchiadau”.

Mae Brexit dim cytundeb yn “brif senario” gan Lywodraeth Prydain, yn ôl uwch-ddiplomat yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael ei ddyfynnu yn The Daily Telegraph a’r Guardian yn dilyn y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’n glir nad oes gan Lywodraeth Prydain gynllun arall,” meddai. “Does dim bwriad i drafod, sydd angen cynllun. Mae’n ymddangos bod dim cytundeb yn brif senario i Lywodraeth Prydain.”

Galw am newid safbwynt

“Mae Prif Weinidog eisiau cyfarfod ag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd a chynnal trafodaethau ar gytundeb newydd – un sy’n cael gwared ar y trefniadau annemocrataidd yng Ngogledd Iwerddon,” meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.

“Rydyn ni am daflu ein hunain i mewn i’r trafodaethau gyda’r egni mwyaf ac ysbryd o gyfeillgarwch, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ailfeddwl ei wrthodiad presennol ynglŷn â gwneud unrhyw newidiadau i’r Cytundeb Ymadael.

“Y gwir yw bod y Cytundeb Ymadael wedi cael ei wrthod dair gwaith gan y Senedd ac nid yw am gael ei gymeradwyo yn ei ffurf bresennol, felly os yw’r Undeb Ewropeaidd eisiau cytundeb, mae angen iddo newid ei safbwynt.

“Tan hynny, fe fyddwn ni’n paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.”