Mae nifer yr achosion o glefyd Lyme wedi “cynyddu’n sylweddol” yng ngwledydd Prydain – a thair gwaith yn gyflymach na’r amcangyfrif blynyddol.
Yn ôl astudiaeth o recordiau doctoriaid teulu, mae clefyd lyme wedi cael ei ddarganfod ym mhob rhan o wledydd Prydain. Yr Alban sydd â’r mwyaf o achosion, ac mae de orllewin a de Lloegr yn dod yn ail.
Edrychodd ymchwilwyr o wledydd Prydain a’r Almaen ar gronfa ddata gofal sylfaenol yn dal cofnodion dienw o 8.4m o bobl wnaeth gofrestru gyda meddygfeydd rhwng 2001 a 2012 – tua 8% o’r boblogaeth gyffredinol.
Mae tua 4,083 o achosion o glefyd Lyme wedi cael eu darganfod ymysg 4,025 o gleifion. Mae 56 ohonyn nhw wedi cael yr haint fwy nag unwaith hefyd.
Allan o’r rhain roedd 1,702, 41.7%, å chlefyd Lyme wedi’u “diagnosio’n glinigol”, 1,913, 46.9% wedi’u “trin o dan amheuaeth o fod â chlefyd Lyme, ac roedd 468, 11.5%, wedi’u trin am glefyd Lyme.
Yn ôl yr ymchwil roedd cyfanswm blynyddol yr achosion a gofnodwyd wedi cynyddu bron i ddeg gwaith dros y cyfnod, o 60 I 595, gan awgrymu bod amcangyfrif o 7,738 o achosion yn 2012.
Clefyd lyme yw’r haint mwyaf cyffredin mewn sawl rhan o Ewrop a’r Unol Daleithiau ac roedd cyfraddau uchel mewn gwledydd cyfagos wedi ysgogi pryder bod amcangyfrif cyfredol y gwledydd Prydain yn rhy isel.
Mae’r haint bacteriol yn cael ei ledaenu i gyrff pobol trwy frathiadau o diciau heintiedig, a gall y symptomau gynnwys brech goch a ddisgrifir yn aml fel ‘bullseye’ ar fwrdd dartiau.