Mae 23 o brotestwyr Hong Kong wedi cael eu cyhuddo o “achosi reiat” – y cyhuddiad gwaethaf maen nhw wedi derbyn ers i’r protestio ddechrau yn y ddinas y mis diwethaf.
Maen nhw’n protestio yn erbyn dylanwad Tsieina yn y ddinas, sy’n diriogaeth sydd yn hanner annibynnol gyda’i ddeddfau a’i system gyfreithiol ei hun.
Yn ôl yr heddlu mae cyfanswm o 44 o bobol wedi cael eu cyhuddo o achosi reiat ac un arall am fod ac arfau yn ei feddiant.
Er hynny dim ond 23 sydd wedi ymddangos yn y llys heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31), ac maen nhw i gyd bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.
Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o flocio lonydd, torri ffensys, difrodi arwyddion stryd ac ymosod ar swyddogion yr heddlu gyda briciau.
Fe’u cadwyd yn y ddalfa ar ôl gwrthdaro gyda’r heddlu mewn protest anawdurdodedig yn rhan orllewinol ynys Hong Kong ddydd Sul (Gorffennaf 28).
Fe daniodd yr heddlu fwledi rhwygo nwy a rwber dro ar ôl tro i wthio’r protestwyr yn ôl gan rwystro’r strydoedd gydag arwyddion ffyrdd ac ymbarelau.
Cyhoeddodd yr heddlu rybuddion cyn defnyddio’r nwy dagrau, ond fe wnaeth protestwyr sefyll eu tir a thaflu wyau at y swyddogion.